Quick Links

Quick Links Open/Close

Ysgol Dyffryn Aman

  • Search this websiteSearch Site
  • Instagram Instagram
  • Translate the contents of this page Translate Page
  • Facebook Facebook
Cymraeg English
Strip

Amdanom Ni

×

Amdanom Ni

Mae'r ysgol yn ysgol gyfun gymysg, ddwyieithog, ffyniannus, llwyddiannus sy'n cael ei chynnal gan yr awdurdod lleol Sir Caerfyrddin. Mae yna tua 1,450 disgybl ar y gofrestr ar gampws mawr. Mae yna 270 disgybl yn ein Chweched Dosbarth.

Lleolir yr ysgol yn Rhydaman, tref fach ar waelod y Mynydd Du. Daw tua hanner o'r disgyblion o'r dref ei hun, a'r gweddill o'r ardaloedd gwledig cyfagos a phentrefi agos. Daw'r disgyblion o ddalgylch mawr sy'n gymysg o'r gefnwlad a'r diwydiannol. Mae'r ysgol yn adlewyrchu ac yn mwyhau natur ddwyieithog yr ardal. 

Daw bron traean o'r disgyblion o gartrefi sy'n siarad Cymraeg. Mae 47% yn siarad Cymraeg yn rhugl ac ychydig dros hanner sy'n astudio Cymraeg fel iaith gyntaf. 

Mae gan yr ysgol cyfleusterau chwaraeon gwych, gan gynnwys Neuadd Chwaraeon, Pwll Nofio, Astroturf newydd am Bêl Droed a Hoci, ynghyd a chyrtiau Tenis. Mae yna hefyd traddodiad cyfoeth o gyflawniadau chwaraeon a gweithgareddau all-gyrsiol arall yn yr ysgol. Mae nifer o ddisgyblion yn cynrychioli eu sir a'u wlad mewn amrywiaeth o gampau. 

Fel ysgol rydym yn cymryd holl faterion ynglŷn â Diogelu yn ddifrifol. Dylai pob pryder Diogelu cael ei adroddi i'r Swyddogion Diogelu, Mrs Fiona Elias, Mr Chris Davies, Mr Steve Hagget, neu'r Pennaeth Mr James Durbridge.

 

Strip Strip