Quick Links

Quick Links Open/Close

Ysgol Dyffryn Aman

  • Search this websiteSearch Site
  • Instagram Instagram
  • Translate the contents of this page Translate Page
  • Facebook Facebook
Cymraeg English
Strip

Cefnogaeth Fugeiliol

×

Cefnogaeth Fugeiliol

Yma yn Ysgol Dyffryn Aman rydym yn ymfalchi yn y gofal bugeiliol rydym yn cynnig i bob plentyn yn yr ysgol. Mae'r timau bugeiliol yn cynnwys Pennaeth a Dirprwy Pennaeth Blwyddyn a rheolir gan aelod o'r Tîm Arweinyddiaeth Hŷn.

Cefnoga'r tîm gan Swyddog Cynhwysiad, Swyddog Cyswllt Teuluol ac ein Swyddog Cefnogaeth Fugeiliol. 

Ynghyd a darparu cymorth i ddisgyblion mewn angen, rydym yn anelu i ddarparu gofal rhagweithiol bugeiliol sy'n hyrwyddo lles ac iechyd meddyliol da. Cefnogir gan ein cwricwlwm Lles ac Iechyd a'r Rhaglen REACH ynghyd a rhaglen PHSE cyflawn sy'n cael ei darparu trwy'r dosbarthiadau cofrestru. 

Gwasanaethau

Mae'r holl ddisgyblion a myfyrwyr yn mynychu gwasanaethau wythnosol. Trefnir gan y timau bugeiliol ac maent yn rhoi cyfle i roi negeseuon pwysig i'r holl grŵp blwyddyn. Yn aml mae siaradwyr allanol yn cefnogi'r gwasanaethau sydd yn berthnasol i anghenion y grŵp blwyddyn a'u cam mewn eu haddysg. Gall hyn cynnwys:

  • Trafodaethau bugeiliol ar faterion o bwys er enghraifft diogelwch ar-lein
  • Trafodaethau ar yrfaoedd ac opsiynau
  • Pynciau cyfoes a choffadwriaethau digwyddiadau pwysig

Mae presenoldeb mewn gwasanaethau yn orfodol am bob disgybl ac maent yn rhan bwysig o'r rhaglen fugeiliol.

 

Gwasanaeth Cwnsela Ysgol

Mae disgyblion a myfyrwyr yn yr ysgol yn cael mynediad i'r gwasanaeth gwnsela mewn Ysgolion Ardal 43. Er mwyn cael mynediad at hyn gellir cyfeirio disgyblion gan Benaethiaid Blwyddyn neu rieni / gwarcheidwaid. 

Gall myfyrwyr dros 16 cyfeirio eu hun at y gwasanaeth hwn. 

Gallwch ddarganfod fwy amdano Ardal 43, gan gynnwys sut i wneud cyfeiriad, yma:

 

Strip Strip