Clybiau a Gweithgareddau
Mae gan yr Ysgol nifer o gymdeithasau llwyddiannus iawn. Dyma rhai ohonynt:- Clwb Clecs (Iaith a Diwylliant Cymraeg), Ysgrifennu Creadigol, Hanes and Dadlau
- Gemau Bwrdd, Gwyddbwyll, Dungeons and Dragons, a Duolinguo
- Celf, LEGO, Crosio, Coedwaith
- Clybiau chwaraeon o bob math
Y mae gweithgareddau all-gyrsiol yn rhan bwysig iawn o’r hyn a gynigir gan yr Ysgol. Uchafbwyntiau diwylliannol yr Ysgol bob blwyddyn yw’r Eisteddfod Gŵyl Ddewi a’r Cynyrchiadau Drama/Cerddorol. Ymhlith y cynyrchiadau diweddar y mae Sŵyn y Sêr, Nôl i'r 80'au a Grîs.
Mae’r Eisteddfod yn ganolbwynt i nifer helaeth o weithgareddau eraill gan gynnwys Canu Corawl, Parti Llefaru, Dawnsio Gwerin. Mae i’r ysgol draddodiad cyfoethog yn y meysydd hyn ac maent wedi ennill cystadleuthau cenedlaethol di-ri.
Mae timau siarad cyhoeddus o’r Ysgol wedi cystadlu mewn nifer o cystadlaethau ac yn parhau i gael llwyddiant ysgubol ar draws y wlad.
Mae rhai aelodau'r Ysgol wedi perfformio gyda Theatr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru a Theatr Ieuenctid Cenedlaethol Brydeinig. Mae nifer o ddisgyblion yn barod yn aelodau o'r cwmnïau urddasol hyn ac mae eraill yn chwilio am leoedd.
Rydym yn chwarae rôl fawr mewn gweithgareddau elusennol a bron pob blwyddyn mae tua £5,000 yn cael ei chodi gan ddisgyblion yr Ysgol i gefnogi elusennau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Rhestr Clwbiau am 2025-2026
Mae gweithgareddau Addysg Gorfforol yn cael eu cyhoeddi yn wythnosol.




Social Media