Ein Gwerthoedd

Amcanion ein hysgol yw:
- I ddarparu cymuned ysgol sy'n gynnes, caredig, a chynwysedig i ddisgyblion a staff lle gallant fwynhau gweithio gyda'i gilydd a theimlo ymdeimlad cryf o berthyn tu fewn TeuluYDA.
- I feithrin a datblygu'r gallu deallusol, cymdeithasol a chorfforol pob plentyn i'r graddau llawnaf, gan sicrhau eu bod yn hyderus i ymgymryd â heriau bywyd ar ôl ysgol.
- I annog meddyliau bywiog, annibynnol a chwilfrydig, gan roi cyfleoedd hafal i bawb, beth bynnag ei rhyw, hil, oedran, a gallu i ennill cymwysterau, gwybodaeth a'r sgiliau perthnasol i eu anghenion yn y dyfodol, ac i sicrhau sail digon i alluogi dilyniant i mewn i gyflogaeth, addysg uwch, hyfforddiant a rolau eraill.
- I ddatblygu dealltwriaeth o barch at werthoedd crefyddol a moesol yn ein cymdeithas ac mewn cymdeithasau gwahanol.
- I wella gwybodaeth o ac empathi am ein hetifeddiaeth ddiwylliannol ac iaith ni mewn amgylchedd hollol ddwyieithog, gan roi cyfle i bawb astudio Cymraeg a Saesneg, a thrwy ddefnyddio'r ddwy iaith fel cyfrwng cyfarwyddyd.
Gwerthoedd yr Ysgol
Gwerthoedd craidd yr ysgol yw:
- Parch
- Caredigrwydd
- Gwytnwch
- Uchelgais
Datblygom y gwerthoedd hyn trwy broses ymgynghori helaeth gyda staff, rhieni, disgyblion, a'r gymuned ehangach, a nhw yw'r gwerthoedd wrth wraidd pob gweithred yn Ysgol Dyffryn Aman.



Social Media