Quick Links

Quick Links Open/Close

Ysgol Dyffryn Aman

  • Search this websiteSearch Site
  • Instagram Instagram
  • Translate the contents of this page Translate Page
  • Facebook Facebook
Cymraeg English
Strip

Presenoldeb

×

Presenoldeb

Presenoldeb yn yr ysgol yw'r ffactor pwysicaf tu ôl canlyniadau llwyddiannus a datblygu lles emosiynol a chymdeithasol plentyn. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o bresenoldeb o 97% i bob plentyn. Mae hyn yn cyfateb i 6 diwrnod bant o'r ysgol yn ystod y flwyddyn. 

Os yw presenoldeb plentyn yn gostwng i 90% mae hyn yn golygu eu bod yn colli 20 diwrnod y flwyddyn. 

Os mae'n gostwng i 80%, yna mae'n cyfateb i 40 dydd mewn blwyddyn!

 

Beth gallwch chi wneud i helpu:

  • Gosod amser gwely rheolaidd ac arfer bore.
  • Trefnu apwyntiadau tu allan o oriau ysgol ble gallwch chi. 
  • Cyfathrebu a'r ysgol os yw eich plentyn yn absennol am unrhyw reswm.
  • Siarad â'ch plentyn dros y pwysigrwydd o fod yn bresennol a chymryd rhan mewn bywyd ysgol.

Er mwyn eich helpu i dracio a monitro presenoldeb eich plentyn, rydym yn anfon hysbysiadau rheolaidd trwy ClassCharts a byddwn yn anfon neges atoch os nad yw eich plentyn mewn ysgol ac nad ydych wedi darparu rheswm. 

Yn yr achosion prin pan fydd plentyn yn rhy sâl i fynychu'r ysgol, gallwch alw'r ysgol neu roi gwybod i ni drwy ClassCharts. 

Prydlondeb

Mae prydlondeb, neu beidio bod yn hwyr i wersi neu'r ysgol, yn gysylltiedig yn agos â phresenoldeb. Mae bod yn hwyr yn golygu colli amser, ac mae ganddo effaith enfawr hefyd ar eich lles, cyfeillgarwch, a dealltwriaeth. 

  • Mae 5 munud yn hwyr bob dydd yn cyfateb i golli 3 diwrnod y flwyddyn
  • Mae 10 munud yn hwyr bob dydd yn cyfateb i golli 6 diwrnod y flwyddyn
  • Mae 15 munud yn hwyr bob dydd yn cyfateb i golli 10 diwrnod y flwyddyn
  • Mae 20 munud yn hwyr bob dydd yn cyfateb i golli 13 diwrnod y flwyddyn
  • Mae 30 munud yn hwyr bob dydd yn cyfateb i golli 19 diwrnod y flwyddyn
Strip Strip