Rhaglen Cynnwys Rhieni

Mae’r Rhaglen Cynnwys Rhieni yn ôl yn ystod y flwyddyn academaidd hon gyda nifer o sesiynau pwysig yn dychwelyd.
Yn ystod y flwyddyn, bydd cyfleoedd i rieni fynychu gweithdai, seminarau a chymorthfeydd rhieni-athrawon yn rhoi sylw i agweddau allweddol o fywyd yr ysgol.
Nod y rhaglen yw rhoi mwy o gymorth i rieni fel eu bod yn fwy abl i gefnogi addysg eu plentyn. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar faterion academaidd a bugeiliol, gan amlygu i rieni’r profiadau y mae eu plant yn dod ar eu traws yn ddyddiol.



Social Media