Cwricwlwm
Gweithredir y cwricwlwm o fewn fframwaith o gylch amserlen 50 gwers dros bythefnos. Golyga hyn bod 25 o wersi un awr bob wythnos.
Nod y tair blynedd gyntaf yw sicrhau trosglwyddiad llyfn i addysg uwchradd ac i ehangu holl amrediad profiadau'r disgyblion o fewn fframwaith gofynion y Cwricwlwm Cymru.
Strwythurir y dydd trwy ddechrau gydag amser cofrestru mewn dosbarthiadau cofrestru, sy'n gyfle i gwblhau gweithgareddau bugeiliol ac i gael trafodaeth lles gyda'ch athro cofrestru. Dilynai hyn gyda 2 gwers, egwyl 20 munud, 2 fwy o wersi, ac yna amser cinio 50 munud; yn y prynhawn mae yna 1 wers olaf.
Yn ystod amser cinio mae yna amrywiaeth o opsiynau bwyd, gweithgareddau a chlybiau.
Yn ystod cyfnodau o arholiadau allanol, mae'r diwrnod a drefnwyd yn newid i gyd-fynd a gofynion yr arholiad.
Blynyddoedd 7, 8 a 9 (CA3)
Mae disgyblion yn astudio Saesneg, Cymraeg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Technoleg, Ieithoedd Modern, Daearyddiaeth, Hanes, Addysg Grefyddol, Celf, Cerddoriaeth, Drama, Technoleg Gwybodaeth ac Addysg Gorfforol.
Yn ogystal â’r pynciau y mae disgyblion yn astudio, mae cyfleoedd gwerthfawr ar draws y cwricwlwm i ddatblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol trwy ein rhaglen REACH ac i archwilio cysylltiadau trawsgwricwlaidd rhwng meysydd dysgu’r Cwricwlwm i Gymru.
O fis Medi 2025 ymlaen, bydd disgyblion Blwyddyn 7 mewn dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg yn cael eu dysgu mewn dosbarthiadau gallu cymysg tra bod dosbarthiadau Mathemateg yn cael eu gosod yn ôl gallu. Bydd y strwythur hwn yn dilyn Blwyddyn 7 wrth iddynt symud trwy Gyfnod Allweddol 3 hyd at Flwyddyn 9.
Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11 (CA4)
Yn ystod Blwyddyn 9, caiff y disgyblion ddewis pa opsiynau y maent am eu hastudio ym Mlynyddoedd 10 ac 11 fel rhan o'u datblygiad gyrfaol. Fodd bynnag, bydd Saesneg, Mathemateg, Cymraeg, Gwyddoniaeth, Addysg Gorfforol, ac Addysg Grefyddol yn parhau i fod yn orfodol i bob disgybl.
Yn gyffredinol, mae'r cyrsiau ym Mlynyddoedd 10 ac 11 yn arwain at arholiadau allanol dros y 2 flynedd. Mae ystod eang o bynciau ar gael ar lefel TGAU. Mae disgyblion yn cael eu gosod yn ôl eu gallu mewn pynciau craidd tra bod pob pwnc arall yn seiliedig ar ddewis opsiynau.
Hefyd ar gael i ddisgyblion ym Mlynyddoedd 10 ac 11 mae cyrsiau lefel mynediad CBAC lle mae'r prif fath o asesiad trwy waith cwrs yn hytrach nag arholiadau ffurfiol. Mae'r holl ddisgyblion hefyd yn cymryd rhan yn REACH, sef rhaglen sydd wedi'i chynllunio i ddatblygu medrau personol a chysylltiedig â gyrfa. Mae rhaglen REACH yn cynnwys ein menter dysgu arloesol yn y gwaith lle mae myfyrwyr yn cael eu paru â chyflogwyr i gael profiadau dilys o ddatrys problemau byd go iawn yn y gweithle.



Social Media