Rhaglen Fugeiliol
Dosbarthiadau Cofrestru
Pob bore mae'r myfyrwyr yn cwrdd â'i athro cofrestru ac mae'n rhan hanfodol o'r rhaglen fugeiliol y Chweched Dosbarth. Mae ein hathrawon cofrestru yn llawn profiad ac wedi gweithio gyda myfyrwyr y Chweched am sawl flwyddyn.
Defnyddia amser cofrestru am:
- Darparu cefnogaeth a mentoriaeth
- Trafod materion bugeiliol, gan gynnwys y dyfodol, cyllid a.y.y.b
- Cefnogi disgyblion yn eu cynnydd academaidd a gosod targedau
- Cynllunio ceisiadau UCAS
Athrawon cofrestru sy'n ysgrifennu geirda UCAS am ddisgyblion a geirda am brentisiaethau a swyddi felly mae'r perthynas rhwng y disgybl a'r athro cofrestru yn bwysig iawn ac mae presenoldeb am gofrestru yn orfodol ond bod ddim gwersi gan y disgybl am weddill y dydd.
Gwasanaethau a Sesiynau Bugeiliol
Mae'r gwaith mewn dosbarthiadau cofrestru wedi'i ategu gan raglen o wasanaethau wythnosol a sesiynau bugeiliol ychwanegol sy'n cwmpasu ystod eang o bynciau gan gynnwys gyrru'n ofalus, sgiliau sylfaenol achub bywyd, cynllunio cyllid a chyllidebau, cynllunio gyrfaoedd ac opsiynau prifysgol.
Y Tîm Bugeiliol
Tu fewn tîm y Chweched Dosbarth rydym yn derbyn cymorth nifer o bobl y mae eu prif rôl yn darparu arweiniad bugeiliol ac academaidd i fyfyrwyr y Chweched Dosbarth.
Mae yna focs cymorth wedi'i lleoli mewn lle anymwthgar yn Ganolfan y Chweched ble gall myfyrwyr llenwi cerdyn a gofyn am gymorth (academaidd neu fugeiliol). Mae'r tîm bugeiliol wedi'i lleoli yn Ganolfan y Chweched ble gall disgyblion cael mynediad atyn nhw ar unrhyw amser.
Y Swyddog Diogelu am Disgyblion y Chweched Dosbarth yw Mr Stephen Hagget
Sixth Form Pastoral Team (ID 1469)
-
Stephen HaggetAssistant Headteacher & Head of Sixth Form
Stephen Hagget
-
James ThomasPastoral Lead
James Thomas
-
Rachel Barnett-JonesPastoral Lead
Rachel Barnett-Jones
-
Juliana HerbertStudent Achievement Officer
Juliana Herbert
Sgwrs Fugeiliol
Gallwch hefyd llenwi'r ffurflen fer isod i mewn os ydych eisiau sgwrs fugeiliol neu os ydych chi eisiau i'ch plentyn cael sgwrs fugeiliol!



Social Media