Quick Links

Quick Links Open/Close

Ysgol Dyffryn Aman

  • Search this websiteSearch Site
  • Instagram Instagram
  • Translate the contents of this page Translate Page
  • Facebook Facebook
Cymraeg English
Strip

Diogelwch Ar-Lein

×

Diogelwch Ar-lein

Yma yn Ysgol Dyffryn Aman rydym yn cymryd Diogelwch Ar-lein (rhyngrwyd wefan) yn difrifol iawn, trwy'r flwyddyn mae ein disgyblion yn derbyn addysg barhaol ynglŷn â pheryglon y rhyngrwyd. Rydym yn wneud hyn trwy wersi TGCh, gwersi bugeiliol, a gwasanaethau ysgol.  

Ar y wefan hon gallwch ddarganfod llawer o wybodaeth a chyngor am bynciau sy'n berthnasol i Ddiogelwch Ar-lein a delio gyda digwyddiadau Diogelwch Ar-lein.

Rydym ymwybodol iawn gall disgyblion defnyddio amrywiaeth o ddyfeisiadau i gysylltu gyda'r rhyngrwyd tu allan i'r ysgol. Rydym yn annog rhieni / gwarcheidwaid i chwilio am gyngor os angen ar gadw eu plant yn ddiogel ar-lein tra gartref. 

Cyngor am Rieni / Gwarcheidwaid

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth a chyngor am rieni / gwarcheidwaid ar y gwefan Hwb Llywodraeth Cymru.

Awgrymiadau i Rieni / Gwarcheidwaid i Gadw Plant yn Ddiogel Ar-lein

1. Defnyddiwch feddalwedd hidlo rhyngrwyd a pheiriannau chwilio sy'n ddiogel am blant. Defnyddiwch eich rheolyddion gwefan achos mae rhai yn cynnig gwahanol raddau o ddiogelwch am bob aelod o'r teulu.

2. Edrychwch i mewn i ba wasanaethau diogelu plant mae eich Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP) yn cynnig - os ganddynt hidlwr am sbam, er enghraifft? Os na, gofynnwch pam. 

3. Cadwch eich cyfrifiadur mewn ardal o'r tŷ ble mae'n haws i fonitro beth mae eich plant yn gwylio. 

4. Gwnewch yn siŵr bod eich plant yn gwybod i ddim rhannu manylion personol. Os ydyn nhw eisiau tanysgrifio i unrhyw wasanaethau ar-lein, yna defnyddiwch gyfeiriad e-bost teuluol i dderbyn y bost. 

5. Mae plant wrth ei bodd o siarad, ond gwnewch yn siŵr maent yn defnyddio ystafelloedd siarad wedi'i gymedroli ac anogwch nhw i gyflwyno chi i'w ffrindiau ar-lein. 

6. Anogwch eich plant i ddweud wrthoch chi os ydyn nhw'n teimlo'n anghyfforddus, trist, neu dan fygythiad gan unrhywbeth rydyn nhw wedi gweld ar-lein. 

7. Cynhwyswch eich plant mewn ysgrifennu cod teuluol ar gyfer defnydd derbyniol o'r rhyngrwyd. Cofiwch mai beth sy'n dderbyniol ar gyfer person mewn ei arddegau yn wahanol i blant oedran ysgol gynradd, felly defnyddiwch eu mewnbwn. 

8. Mae offer cyfrifiadurol yn ddrud felly cadwch mewn cof efallai bydd plentyn gyda gliniadur yn agored i niwed wrth ei gario i mewn ac oddi wrth ysgol.

9. Mae'r rhyngrwyd yn adnodd arbennig am waith cartref, ond cofiwch i ddefnyddio mwy nag un gwefan wrth ymchwilio er mwyn cael gwybodaeth eang a chytbwys a chadwch lyfryddiaeth o'ch ffynonellau. 

10. Ewch ar-lein gyda'ch plant a dewch yn rhan o'u bywyd ar-lein. Yr allwedd i fod yn ddiogel ar-lein yw cyfathrebu. 

Dolenni Defnyddiol am Rieni / Gwarcheidwaid

 

Adrodd am fater ar-lein

Am unrhyw cymorth gyda materion cam-drin ar-lein a secstio

Cymorth a chyngor defnyddiol

 

Diogelwch ar-lein am bawb

 

Dolenni Diogelwch Ar-lein am Ddisgyblion

Angen Cymorth?

Ôl Troed Digidol

Beth yw Aflonyddu Rhywiol?

Adrodd mater E-Diogelwch

 

 

Cysylltu gyda Childline


Rhestr Wirio Cyfryngau Cymdeithasol

 

Strip Strip