Quick Links

Quick Links Open/Close

Ysgol Dyffryn Aman

  • Search this websiteSearch Site
  • Instagram Instagram
  • Translate the contents of this page Translate Page
  • Facebook Facebook
Cymraeg English
Strip

Ymweliadau Addysgol

×

Ymweliadau Addysgol

Cyflwyniad

Mae gan yr ysgol hanes balch o drefnu a rhedeg ymweliadau addysgol i gyfoethogi dysgu a rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gael profiadau na fyddent efallai wedi cael. 

Credwn fod gan ymweliadau addysgol rôl bwysig i chwarae wrth ddatblygu hyder, codi uchelgais, a meithrin cariad at ddysgu mewn disgyblion, a dylai'r rhain fod ar gael i bob myfyriwr.  

Rydym yn trefnu dros 100 o ymweliadau pob blwyddyn ar draws ystad eang o feysydd.

  • Teithiau lleol i gampysau prifysgol, teithiau i gyflogwyr lleol, teithiau maes, digwyddiadau chwaraeon, cystadlaethau a theithiau pwnc-penodol academaidd. Ffurfia hyn y mwyafrif o'n teithiau ac mae llawer o'r profiadau hyn yn costio ychydig iawn. 
  • Ymweliadau Dros-Nos yn y DU am chwaraeon, cystadlaethau ac i ymweld â thirnodau yng Nghymru a gweddill y DU. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae hyn wedi cynnwys y twrnameintiau 7s blynyddol mewn Warwick a Roslyn Park, teithiau i Lundain i ymweld â Hampton Court, yr Amgueddfa Gwyddoniaeth a'r Amgueddfa Hanes Natur, teithiau Dug Caeredin, a theithiau maes daeareg i Sir Benfro a Dorset.
  • Teithiau Rhyngwladol (tramor) wedi'i darlunio i ddarparu profiadau a chyfleoedd sy'n mynd a disgyblion tu hwnt i'r ystafell dosbarth ac i roi cofion a fydd yn parhau am fywyd. Ynghyd a'r teithiau sgïo blynyddol iau a hyn, yn y blynyddoedd diwethaf, mae disgyblion wedi cael y cyfle i ymweld â Pharis, Rhufain, Gwlad Pwyl, Gwlad yr Ia, Moroco, a'r UDA. 

Rheoli Ymweliadau Addysgol

Mae gennym weithdrefnau cadarn mewn lle ar gyfer rheoli ymweliadau addysgol ysgolion, y gellir eu gweld yn ein polisi ymweliadau addysgol. Cefnogir y rhain gan asesiad a rheolaeth risg drwy ein gweithdrefnau ni sy'n cyd-fynd â System EVOLVE-Edufocus Cyngor Sir Caerfyrddin. 

 

Mae ein polisi ymweliadau addysgol yn amlinellu'r gymhareb o staff i ddisgybl ac ymddygiad staff ar ymweliadau ysgol ynghyd a'n rheolaeth risg a'n prosesau cymeradwyo. 

Cliciwch yma i weld ein Polisi Ymweliadau Addysgol 

Caniatâd a Thaliad

Caiff ein hymweliadau addysgol eu trin trwy'r system ParentPay (Cliciwch yma am fwy o wybodaeth), rydym yn defnyddio ParentPay i gasglu caniatâd a gwybodaeth bwysig ynglŷn anghenion meddygol ac alergeddau. 

Dylai taliadau am ymweliadau addysgol cael eu gwneud trwy ParentPay. Yn arferol, gallwch wneud taliadau mewn sawl rhandaliad wedi'i bylchu allan rhwng dyddiad cyhoeddi'r daith hyd at ddyddiad y daith ei hun. Am rhai o'n teithiau mwy drud rydym yn defnyddio gweithredwyr teithiau trwyddedig a phrofiadol. Bydd y rhain yn cael eu hamserlenni talu eu hun ac yn yr achosion hyn rydym wedi ein clymu i'r rhain. 

Nodwch os gwelwch yn dda fod unwaith mae taith wedi'i harchebu, mae hyn yn dynodi ymrwymiad i fynychu'r daith. Methiant i wneud hyn (neu dynnu'n ôl) gall olygu bod taliadau'n cael eu colli os mae'r arian hwn eisoes wedi'i phasio'n ymlaen i'r gweithredwyr. 

Mae ein holl ymweliadau a theithiau addysgol wedi'u hanelu at ddisgyblion sy'n dangos ymddygiad rhagorol. Bydd arweinwyr teithiau yn ymgynghori a Phenaethiaid Blwyddyn cyn taith er mwyn sicrhau fod y disgyblion yn addas ar gyfer y daith honno. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu disgyblion yn ôl lle mae gennym bryderon ynghylch eu haddasrwydd ar gyfer unrhyw gyfle penodol.

 

Oriel o Deithiau Diweddar

Educational Visits

A taster of some of our recent educational visits!

Ymweliadau Addysgol Nesaf

Mae'r ymweliadau addysgol canlynol wedi'u cynllunio am y misoedd nesaf:

  • 14 Feb 2026

    to

    21 Feb 2026

    Senior Ski Trip to Italy (Sixth Form)
    Add Senior Ski Trip to Italy (Sixth Form) to your calendar
  • 21 Mar 2026

    to

    28 Mar 2026

    Ski Trip to Italy (Year 10)
    Add Ski Trip to Italy (Year 10) to your calendar
  • 11 Jul 2026

    to

    21 Jul 2026

    WRU Rugby Academy Tour to Canada (Academy)
    Add WRU Rugby Academy Tour to Canada (Academy) to your calendar

Adding dates to your calendar

Subscribing via Outlook

Follow the relevant instructions below, using the feed address http://www.dyffrynaman.greenhousecms.co.uk/ical.ics

Subscribing via Google

  • On your computer, open Google Calendar
  • On the left, next to "Other calendars" click 'Add' Add followed by 'From URL'.
  • Click this button to copy the feed address to your clipboard and paste it into the 'URL of calendar' field
  • Click 'Add calendar'. The calendar will appear on the left side under "Other calendars"
  • It might take up to 12 hours for changes to show in your Google Calendar.

Subscribing via iPhone

 

 

Strip Strip
  •